The National Eisteddfod/Eisteddfod Genedlaethol arrives in Rhondda Cynon Taf this August with over 1,000 activities to enjoy from morning till night at Parc Ynysangharad.
Scroll down for English version
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Rhondda Cynon Taf fis Awst eleni! Dere draw i gael blas ar dros 1,000 o weithgareddau o bob math o ben bore tan yn hwyr. Yr Eisteddfod yw un o wyliau gorau’r byd – gyda phopeth ym Mharc Ynysangharad yn rhad ac am ddim gyda thocyn mynediad Maes.
Mwynhau cerddoriaeth? Mae bandiau gorau Cymru i gyd yn perfformio ar Lwyfan y Maes – ac os wyt ti dal eisiau mwy o gerddoriaeth ar ddiwedd y nos, beth am fynd draw i fwynhau brawd bach liw nos y ‘Steddfod, Maes B? Gyda thros 30 o fandiau, artistiaid a DJs yn perfformio o nos Fawrth tan nos Sadwrn, pryna dy docyn Maes B yma maesb.ticketsolve.com.

Ddim eisiau mentro’n rhy bell, ond eisiau rhywbeth tawelach na Llwyfan y Maes? Mae Caffi Maes B yn lwyfan tawelach gyda setiau acwstig, comedi a llawer mwy – gan gynnwys rownd derfynol cystadleuaeth echwaraeon Gymraeg nos Fercher – gydag ambell un o chwaraewyr pêl-droed Cymru’n mynd i alw draw!
Gyda thros 150 o stondinau, bwyd a diod o bob math a thros 10 o lwyfannau amrywiol, mae mwy na digon o bethau i lenwi diwrnod yn yr Eisteddfod, beth bynnag yw dy ddiddordeb. Ry’n ni’n gynhwysol, yn gyfeillgar ac yn groesawgar ac mae croeso mawr i bawb ym Mhontypridd o 3-10 Awst.
Clicia ar y cod QR ar waelod y dudalen i brynu dy docyn a gweld ein rhaglen lawn ar gyfer yr wythnos.
The National Eisteddfod is coming to Rhondda Cynon Taf this summer! Join us to enjoy over 1,000 activities of all kinds from early morning until late. We’re one of the best festivals in the world – and everything at Parc Ynysangharad in Pontypridd is free with your Maes ticket.
Love music? Head over to Llwyfan y Maes – our huge open-air stage to watch Wales’ best bands. Still looking for more music at the end of the night? Head over to Maes B, the Eisteddfod’s after-dark little brother. With over 30 bands, artists and DJs performing from Tuesday to Saturday night, buy your Maes B ticket here.

Don’t want to venture too far, but want something more chilled than Llwyfan y Maes? Caffi Maes B has a relaxed vibe with acoustic sets, comedy and much more – including the final of the Welsh language esports competition on Wednesday night – with a few Welsh football stars rumoured to be coming along.
With over 150 stalls, all kinds of food and drink and over 10 different stages, there’s plenty to fill your day on the Maes. We’re inclusive, friendly and welcoming and there’s a warm croeso for everyone in Pontypridd from 3-10 August.
Advertorial
The National Eisteddfod, Parc Ynysangharad, Pontypridd, Sat 3-Sat 10 Aug.
Tocynnau/Tickets: 0845 4090800
Info: eisteddfod.cymru / Facebook / Twitter / Instagram
KEEP READING: